Cyflwynwyd yr ymateb hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer yr ymchwiliad: A oes gan blant a phobl ifanc anabl fynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

This response was submitted to the Children, Young People and Education Committee for the inquiry: Do disabled children and young people have equal access to education and childcare?

AEC 32

Ymateb gan: Dr Rhiannon Packer, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Response from: Dr Rhiannon Packer, Cardiff Metropolitan University
_________________________________________________________________________________

 

Argymhellion Allweddol

 

  1. Gwerthuso darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cyfredol awdurdodau lleol, adnoddau, a rhaglenni ymyrraeth sydd ar gael yn Gymraeg i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad i addysg.
  2. Datblygu neu addasu ystod gynhwysfawr o asesiadau pwrpasol ac adnoddau addysgol yn y Gymraeg er mwyn cynorthwyo i adnabod angen yn gynnar, ac i gefnogi lles.
  3. Diwygio rhaglenni hyfforddiant addysgu cychwynnol fel bod gan fyfyrwyr Addysg Gychwynol Athrawon sylfaen wybodaeth ddigonol am arferion addysgol cynhwysol a meysydd nodweddiadol o ADY sydd wedi'u gwreiddio fel rhan ganolog o'r rhaglen yn hytrach na'u gweld fel elfen ychwanegol i'r hyfforddiant.
  4. Datblygu rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon pwrpasol ar gyfer y gweithlu ADY fel bod athrawon newydd gymhwyso yn cael eu hyfforddi'n briodol i addysgu dysgwyr ag ystod eang o anghenion.
  5. Darparu datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol i sicrhau ymagwedd gydlynol at addysg gynhwysol a deialog barhaus a myfyrio ynghylch arfer gorau.

 

Cefndir ac Ymateb Manwl

 

Mae’r ymchwiliad yn un amserol yng ngoleuni deddfwriaeth newydd ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a gweithrediad graddol Cod ADY Cymru (LlC, 2021) i greu system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr 0-25 ag ADY (sy’n cynnwys pobl anabl a phlant a phobl ifanc niwrowahanol). Un o’r prif heriau o ganlyniad i drawsnewid ADY yw gweithrediad cynhwysfawr y Cod ADY gan sicrhau cydraddoldeb ar gyfer lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

 

Mae gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysgol (2018) y potensial i drawsnewid cyfleoedd bywyd a phrofiadau addysgol pob dysgwr yn sylweddol, waeth beth fo’u hanabledd neu niwroddargyfeiriadaeth. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae angen ymagwedd gynhwysfawr a chydlynol sy'n darparu cydraddoldeb i bob dysgwr yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae plant a phobl ifanc sy'n dymuno derbyn eu haddysg a'u gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg yn wynebu rhwystrau sylweddol. Yn gyntaf, o ran gallu cael eu hasesu trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith, ac yn ail, cael mynediad at yr adnoddau addysgu neu’r rhaglenni ymyrraeth mwyaf priodol yn Gymraeg. Er enghraifft, nid oes unrhyw asesiadau safonol ar gael i aseswyr/ymarferwyr sy’n archwilio gallu llythrennedd unigolyn yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymarferwyr weithio o'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth eu hunain o angen unigol yn hytrach na defnyddio teclyn safonol a all nodi meysydd sydd angen cymorth pellach. Dibynnir ar ymarferwyr i wneud eu hymchwil eu hunain yn y maes gan beri dehongliadau unigol eu natur. O ganlyniad, mae'n anodd mesur cynnydd academaidd unigol mewn ffordd gyson ac effeithiol. Mae hyn yn rhwystr i alluogi mynediad i ddarpariaeth addysg briodol ac yn cyfyngu ar fynediad at ganlyniadau addysgol, sy’n cael effaith amlwg ar blant ag ADY.

 

Dim ond yn Saesneg y gellir asesu pobl ifanc o oedran ysgol uwchradd sy'n ceisio trefniant mynediad ar gyfer arholiadau allanol. Nid yw’r asesiadau hyn yn ystyried cefndir iaith unigolyn a chânt eu safoni gan ddefnyddio carfannau uniaith Saesneg. Mae hyn yn golygu na ellir rhoi cyfrif am ymatebion unigolion sydd wedi’u dylanwadu gan eu cefndir ieithyddol ac ni fesurir eu gallu ieithyddol yn y Gymraeg. Gall person ifanc fod yn sefyll ei holl arholiadau allanol o 16 oed ymlaen yn Gymraeg ond dim ond yn Saesneg y gellir gweinyddu’r broses asesu i asesu a oes angen cymorth ychwanegol.

 

Mae ystod yr adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgwyr, yn enwedig ar lefel ysgol uwchradd a thu hwnt, yn brin os oes adnoddau o gwbl. Er bod adnoddau ar gael ar gyfer disgyblion blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd, mae'r rhain yn gyfyngedig, ac nid yw'r ystod o ddewis ar gael i ddysgwyr o gymharu â'r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael yn Saesneg. Nid yw llawer o adnoddau yn cynnwys prawf lefel sy'n ei gwneud yn anodd i ymarferwyr asesu cynnydd yn hyderus. Nid yw'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu catalogio na'u lefelu mewn ffordd gyson er mwyn sicrhau dilyniant o un adnodd i'r llall. Mae gan hyn oblygiadau o ran mynediad i gwricwlwm gydag effaith bosibl ar ddeilliannau addysgol ac iechyd meddwl a lles.

 

Wrth fesur effaith ar les ar bob disgybl, gan gynnwys plant a phobl ifanc anabl a niwrowahanol, mae asesiadau cyfredol yn werthusiadau annibynnol o fewn plant, sy'n fwy addas ar gyfer lleoliadau clinigol. Nid ydynt yn fecanweithiau ar gyfer cyfeirio ymyriadau ac addasu dulliau pedagogaidd i gefnogi anghenion dysgwyr ar hyd eu taith addysgol. Mae angen teclyn i fesur lles pob disgybl yn rheolaidd i nodi’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf, ac i alluogi’r defnydd o fesurau ataliol wedi’u teilwra i ddulliau ysgol gyfan.

 

Mae sylfaen wybodaeth ymarferwyr a dealltwriaeth addysgegol o ADY yn amrywiol ac yn anghyson ar draws y sector ac mae perygl y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu heithrio o agweddau ar addysg. Yn ogystal, mae'r rhaglen hyfforddiant bresennol yn annigonol i ymarferwyr sy'n dymuno gweithio mewn Ysgolion Arbennig. Mae datblygu rhaglen bwrpasol i ymarferwyr weithio mewn Ysgolion Arbennig yn un cam ond yw’n ateb y gofynion yn llawn. Mae angen i Addysg Gychwynnol Athrawon ymgorffori ymagwedd gynhwysol at addysgeg fel rhywbeth sy'n ganolog i bob agwedd ar hyfforddiant yn hytrach na'i weld fel elfen annibynnol o fewn rhaglenni. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth gydlynol o arferion addysgol cynhwysol a meysydd nodweddiadol o anghenion dysgu ychwanegol gan arwain at ymagwedd gynhwysfawr a chyson ar gyfer pob dysgwr.

 

Byddai datblygiad proffesiynol parhaus ar lefel genedlaethol o fudd i sicrhau ymagwedd gydlynol at arfer cynhwysol a rhoi cyfle i archwilio a rhannu arfer gorau. Mae’r rhaglen MA Addysg Cenedlaethol yn gosod sylfaen ar gyfer hyn, lle mae ymarferwyr o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i drafod arferion cynhwysol gyda chyfle i gwrdd ag academyddion a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y maes. Gellid ehangu hyn ymhellach fel cynnig cenedlaethol i bob ymarferwr, gan dynnu ar y deunydd sydd ar gael ar HWB ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a darparu fforwm ar gyfer trafodaeth a rhwydweithio ymhlith ymarferwyr.